Mai 7fed, 2020,

Annwyl Aelod Senedd,


Cyllid Argyfwng Covid 19 ar gyfer Gorsafoedd Radio Cymunedol Cymru

 

Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn gweithio ar y cyd fel Rhwydwaith Radio Cymunedol Cymru, yn ysgrifennu i fynegi ein pryderon dybryd ynghylch cyflwr a risg ariannol ein sector.

 

Mae pob un ohonynt yn ddarlledwyr dielw trwyddedig, a mae'r argyfwng ariannol a achosir gan Covid 19 wedi effeithio'n ddifrifol arna ni.

 

Rydym yn darparu rhaglenni diddorol lleol, wedi'u targedu at y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, a ddarperir yn fwyafrif gan ddarlledwyr gwirfoddol; ond yn darparu budd cymdeithasol sylweddol, a mae’r gofyniad yma wedi'i fesur a'i gostio i'n meini prawf perfformiad, er lles a budd ein cymunedau.

 

Er bod yr argyfwng Covid 19 wedi effeithio'n ddifrifol ar ein gwirfoddolwyr, gan gyfyngu ein gweithgareddau, ein gwasanaethau, a'n gallu i gyflwyno cynnwys rhaglenni yn y rhan fwyaf o achosion, mae pob gorsaf wedi parhau i ddarlledu, gan ddarparu eitemau o newyddion a gwybodaeth sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr iawn. Mae na gwymp sylweddol wedi bod mewn incwm o hysbysebu, a mae hyn wedi achosi trallod mawr. Mae canslo hysbysebu a archebwyd ymlaen llaw wedi cael effaith drychinebus. Mae pob gorsaf yn wynebu costau hanfodol, gan gynnwys cyflogau, rhent, ffioedd Ofcom, ffioedd trwydded, yswiriannau, ynni, cynnal a chadw, a'r gorbenion cyffredinol y mae'n ofynnol eu talu mewn unrhyw fusnes. Mae'r mwyafrif hefyd wedi gorfod ysgwyddo'r baich ychwanegol i brynu offer darlledu allannol.

 

Ers i'r cyfnod cloi fod yn ei le, mae gorsafoedd radio cymunedol wedi bod yn paratoi gwybodaeth diogelwch hanfodol i’r cyhoedd mewn ffurf bwletinau radio a negeseuon allweddol i boblogaethau LLEOL ledled Cymru. Mae hyn wedi helpu i achub bywydau, wedi addysgu a hysbysu pobl o’r peryglon, a hefyd throsglwyddo gwybodaeth hanfodol gan y Gwasanaethau Cyhoeddus a Llywodraeth Cymru er mwyn cadw’n sâff.

 

Ni ellir ac ni ddylid tan-werthfawrogi y gwaith yma, yn enwedig pan fo cylchrediad papurau newydd lleol a rhanbarthol yn dirywio, a sianeli cyfathrebu eraill yn gyfyngedig i ardaloedd fwy eang. Rhaid rhoi parch arbennig i'r henoed sy'n troi at radio lleol fel ffordd werthfawr o gael gwybodaeth cyfredol.

 

Er ein bod yn cael ein cynnal gan wirfoddolwyr, rydym yn talu am y fraint o ddarlledu i wasanaethu ein cymunedau mewn ardaloedd a ddiffinnir gan Ofcom. Heblaw am grantiau achlysurol, nid ydym yn derbyn cefnogaeth ariannol selog. Fodd bynnag, mae Ofcom yn darparu fframwaith rheoliadol a mae'n ofynnol i ni gydymffurfio a’r rheolau neu wynebu dirwyon, camau atal neu mae na risg o golli'r drwydded darlledu.

 

Mae angen cefnogaeth ariannol arnom AR FRYS.

 

Rydym angen cymorth ariannol AR UWAITH gan Lywodraeth CYMRU ar gyfer gorsafoedd radio Cymunedol CYMRAEG, sy’n gwasanaethu cymunedau yn ddygus ar draws y Wlad.

 

Mae angen y ddarpariaeth hon yn ychwanegol i unrhyw ddarpariaeth fydd yn cael ei  ddosbarthu ledled y DU, lle mae'n bosibl y bydd cystadleuaeth gan oddeutu 300 o ddarlledwyr radio cymunedol am arian Ofcom, a dim ond cyfran fach sydd mewn bodolaeth yng Nghymru.

 

Rydym yn erfyn ar Lywodraeth y Cynulliad, am gymorth i gadw ein sector ni’n fyw. Rydym yn darparu newyddion, gwybodaeth, ac adloniant lleol gwerthfawr iawn i gymunedau ar draws y wlad, sy'n allweddol ir Genedl. Ni allwn ysgwyddo'r baich hwn ar ein pennau ein hunain, ac oherwydd strwythur ein diwydiant, ni allwn fod yn gymwys i gael y cymorth grant a'r cymorth sydd ar gael i'r gymuned fusnes ehangach. Mi fasa ni’n falch iawn o ddatblygu ein perthynas â'r Cynulliad, a sicrhau ei fod yn cydnabod y gwaith rydym yn ei gyflawni, a dyma pam yda ni angen cymorth ariannol er mwyn goroesi’r argyfwng yma.

 

Mae angen EICH help arnom i'n galluogi i barhau i gyflawni gwasanaeth yn enwedig gan ystyried y camau pwysig sydd o’n blaen wrth i ni ddad-gloi symudiadau a cheisio ail-adeiladu a adferiad. Nid yw amser ar ein hochr ni.

 

Ni allwn bwysleisio digon yr angen am eich help, trwy grantiau a rhagor o arian  refeniw drwy hysbysebu, er mwyn ein cael trwy'r amseroedd anodd hyn, a’n galluogi i barhau i wasanaethu ein cymunedau a'r dyheadau sydd ganddynt bob dydd o'r flwyddyn.

 

Gofynnwn i chi fel aelodau, a rhown sialens i chi fel ein cynrychiolwyr i frwydro am gymorth i'n sector.

 

Rydym yn croesawu’n fawr unrhyw help y gallwch ei roi.

 

Edrychwn ymlaen at eich cymorth a'ch cefnogaeth.

 

Ym mhob didwylledd,

 

Rhwydwaith Radio Cymunedol Cymru

 

David Hanson, Cyfarwyddwr yr Orsaf, Tudno FM

Lee Cole, Rheolwr Gorsaf, Radio Rhondda

Harold Martin, Ymgynghorydd Radio Annibynnol

Donna Zammut, Rheolwr Gorsaf, Radio Caerdydd

Tony Wyn Jones, Cadeirydd yr Orsaf, MônFM

Amy Hughes, Golygydd Gorsaf, Calon FM

Michael Lewis, Cyfarwyddwr yr Orsaf, Radio Tircoed

Nathan Spackman, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Radio Bro

Stephen Bower, Cyfarwyddwr yr Orsaf, Radio BGFM

Steve Johnson, Prifysgol de Cymru